OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1642 (Cy. 214)
landlord a tHenant, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2014 i 11 Medi 2015, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1020 (Cy.73)) (“Gorchymyn 2015”). Mae’r ffigurau sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn wahanol i’r ffigurau sydd yn yr Atodlen i Orchymyn 2015. Mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â’r un cyfnod â Gorchymyn 2015.
Mae'n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu pa un a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy'n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2013, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1642 (Cy. 214)
landlord a tHenant, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2015
Gwnaed 2 Medi 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Medi 2015
Yn dod i rym 28 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2015, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 28 Medi 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae i “hectar cymwys” yr un ystyr a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol([3]);
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir
2.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2014, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn hectar cymwys yn 2013 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2014, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
Dirymu
3. Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015([4]).
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Medi 2015
YR ATODLEN Erthygl 2
UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1 Defnydd ffermio |
Colofn 2 Uned gynhyrchu |
Colofn 3 Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) |
|
1. Da byw |
|||
Buchod godro |
buwch |
600 |
|
Buchod bridio cig eidion: |
ar dir mewn ardal lai ffafriol |
buwch |
–144 |
ar dir arall |
buwch |
–131 |
|
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) |
y pen |
-34 (1) |
|
Buchod llaeth i lenwi bylchau |
y pen |
102(2) |
|
Mamogiaid: |
ar dir mewn ardal lai ffafriol |
mamog |
–18 |
ar dir arall |
mamog |
–3 |
|
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) |
y pen |
4.70 |
|
Moch: |
hychod a banwesod torrog |
hwch neu fanwes |
350 |
moch porc |
y pen |
13.80 |
|
moch torri |
y pen |
17.30 |
|
moch bacwn |
y pen |
20.60 |
|
Dofednod: |
ieir dodwy |
aderyn |
3.50 |
brwyliaid |
aderyn |
0.60 |
|
cywennod ar ddodwy |
aderyn |
0.30 |
|
Tyrcwn Nadolig |
aderyn |
5.20 |
|
2. Cnydau âr fferm |
|||
Haidd |
hectar |
22 |
|
Ffa |
hectar |
141 |
|
Rêp had olew |
hectar |
100 |
|
Pys sych |
hectar |
70 |
|
Tatws: |
cynnar cyntaf |
hectar |
2,580 |
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) |
hectar |
2,220 |
|
Betys siwgr |
hectar |
730 |
|
Gwenith |
hectar |
190 |
|
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau |
|||
Ffrwythau’r berllan |
hectar |
3,080 |
|
Ffrwythau meddal |
hectar |
10,240 |
|
4. Hectarau cymwys |
|||
Tir a oedd, yn 2013, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009 |
tir dan anfantais ddifrifol |
hectar |
95.07 |
tir dan anfantais |
hectar |
126.67 |
|
pob tir arall |
hectar |
63.16 |
(1) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.